Efallai bod yr enw ioga ashtanga wedi'i gymeryd o enw'r asana Ashtanga Namaskara, osgo tebyg i'r asana Surya Namaskar a welir yma | |
Math | ioga |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arddull neu ysgol o ioga yw Ioga Ashtanga Vinyasa, sydd hefyd yn ymarfer corff a boblogeiddiwyd gan K. Pattabhi Jois yn ystod yr 20g; yn aml, fe'i hyrwyddwyd fel ffurf modern o ioga Indiaidd clasurol.[1] Honnodd Jois ei fod wedi dysgu'r system gan ei athro, Tirumalai Krishnamacharya. Mae'r arddull yn egnïol ac yn cydamseru anadl â symudiad. Mae'r ystumiau unigol (a elwir yn asanas) yn cael eu cysylltu a'i gilydd drwy symudiadau'n llifo o un i'r llall (Vinyāsa), mewn cyfres[2]
Sefydlodd Jois 'Sefydliad Ymchwil i Ioga Ashtanga' yn 1948.[3] Gelwir y dull presennol o addysgu yn arddull Mysore ar ôl y ddinas yn India lle dysgwyd yr ymarfer yn wreiddiol.[4] Mae ioga ashtanga vinyasa wedi arwain at wahanol arddulliau o Ioga Llawn Egni (Power Yoga).